Adar!
Croeso i wythnos 6, ac ymddiheuriadau am yr oedi yn y diweddariad. Yr wythnos yma rydym ni wedi bod yn ceisio creu amerslen sydd yn gweithio i bawb yn y teulu (fel fy mod i'n gallu gweithio, yr hynaf yn gallu gwneud ei gwaith ysgol, a'r un bach yn cael profiadau chwarae gwerthfawr tra ein bod ni'n cefnogi Dad sydd yn nyrs!). Wnaethom ni felly ffocysu ar gyflawni'r tasgau o'r ysgol, Cymraeg, Maths, Ymarfer Corff a Chodio.
I fod yn onest, rydym ni wedi llwyddo i gyflawni llawer! Weithiau mae'n werth camu'n ol ac edrych ar y pethau bychain.
Ein pwnc yr wythnos yma fydd Adar.
Unwaith eto, os hoffech chi cyfrannu at fy ngwaith, dyma fy linc KoFi. https://ko-fi.com/anwenworsfold
Dyma rhestr o weithgareddau yr wythnos yma
1. Dysgwch am adar gyffredin yr ardd (o dudalen Facebook Llen Natur)
2. Denwch mwy o adar i'ch ardd drwy creu kebabs adar, bwydydd afal, cacen aderyn, neu bwydydd i adar o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu
3. Darllenwch am sut wnaeth aderyn bach achub y dywysoges Branwen
- syniadau pellach- gwnewch cartwn am y stori
- gwnewch cwis am y stori
- ysgrifennwch diweddglo eich hunain i'r stori. Beth os
na wnaeth Efnisen ddim ffeindio'r milwyr yn y ty?
4. Canwch caneuon traddodiadol Cymreig am adar! Beth am Noson Oer, Ble'r ei di?, neu Dacw ti yn eistedd
5. Creuwch campwaith Celf fel yr enghraifft yma gan Colin See-Paynton. Mae'n arlunio mewn pen gan ddefnyddio llawer o linellau i greu gwead.
6. Dysgwch am ymfudiad adar. Tynnwch lun map o daith aderyn sy'n ymfudo.
7. Dewiswch aderyn a gwnewch proffil amdano
8. Rhowch dro ar y cwis adar cyffredin yma
9. Creuwch ffan plu
10. Cyfrannwch at wyddoniaeth! Cymerwch rhan yn yr arolwg adar BTO
11. Gwyliwch y fideo am greu aderyn origami, a cheisiwch greu un eich hunain!
12. Cyfansoddwch gan am adar
13. Gwrandewch ar ganeuon gwahanol adar.
14. Creuwch allwedd am adar i helpu bobl i'w hadnabod
15. Ysgrifennwch gadwyn bwyd sy'n gorffen gydag aderyn ysglyfaethus
16. Creuwch lun cymesur o aderyn


No comments:
Post a Comment