Saturday, March 21, 2020

WYTHNOS 1 - AMFFIBIAID



Dyma restr o weithgareddau i’w wneud â thema wythnos yma sef… Amffibiaid
Dewisais fformad rhestr fee ich bod medru dewis a dethol pa weithgareddau hoffech chi wneud.

Dynoda unrhywbeth gyda *** y gallech ei dicio o’r llyfryn “ Gweithio yn y tŷ” o’r ysgol. 

Os ydy hwn wedi bod yn ddefnyddiol, ystyriwch prynu frechdan i mi!  https://ko-fi.com/anwenworsfold


·                  Ymchwiliwch Amffibiaid yn gyffredinol
SAESNEG = https://www.dkfindout.com/us/animals-and-nature/amphibians/ (ffynhonnell y delwedd uchod)).

·                  Darllenwch y llyfr Read the book "Amphibians" YN SAESNEG ar  https://www.worldbookonline.com 

Gallech gofrestru eich hunain neu gofyn i mi beth yw’r cyfrinair- un i bawb yw hi. Os hoffech ddarllen llyfr Cymraeg, mae Llyfr Natur Iolo gan Iolo Williams. Ar gael o siopau fel https://cantamil.com/

·                  *** Creuwch Bas-Data am Amffibiaid. Defnyddiwch J2data a dewiswch Database. Mae tiwtorial ar gael ar Hwb. Gallwch ddefnyddio Excel, Access neu pen a phapur hefyd!

·                  Gwnewch rhwyd i chwilota mewn pyllau  

SAESNEG=  Os nad oes 'coathanger' gennych chi, ail-ddefnyddiwch potyn plastic gyda’r gwaelod wedi’i dorri ffwrdd.

·                  Ewch i Chwilota Mewn Pyllau (Dipio Pwll)  (TAKE CARE AROUND WATER!) a cadwch gofnod o beth rydych chi’n darganfod. 
Cyflwynwch eich canlyniadau mewn siart cylch (Defnyddiwch J2data neu Excel) 

SAESNEG= Big PondDip Count how many types of creature you find.

·                  Dysgwch am gylch bywyd broga (matamorffisis) a’i ail-greu o glai neu toes


·                  *** Edrychwch ar waith celf yr Artist Brendan Fahy 
 a cheisiwch peintio’ch llun eich hunain gan ddefnyddio ei steil o liwiau llachar a strôc brwsh mawr. Os nad oes paent gyda chi, defnyddiwch peniau ffelt

·                  Creuwch gêm fagnetig am dipio pwll. Yn lle pysgod yn unig, defnyddiwch brogaod, madfallod a beth bynnag rydych chi’n darganfod mewn pwll

·                  Adeiladwch pwll fach yn eich gardd
Cyfarwyddiadau SAESNEG 
Cyfarwyddiadau CYMRAEG 

·                  ***Gwyliwch Disney's the Princess and the Frog neu darllenwch y stori. Gwnewch cartŵn 8 bocs i grynhoi’r ffilm neu’r stori.
Dyma fideo yn y Gymraeg o’r stori gwreiddiol 

·                  ***Ymchwil... Pwy oedd Hilde Mangold? Byddwch yn gyflwynydd teledu a recordiwch fideo o’ch hunain yn cyflwyno’ch adroddiad ar ei bywyd a’i gwaith.

·                  Gwnewch brogaod origami- gwnewch 3 bob person a cheisiwch cael y nifer fwyaf mewn cwpan!


·                  Gwnewch froga sy’n crawcian! Gallech chi ei ddefnyddio fel offeryn cerddorol?


·                  ***Crefydd- Cristnogaeth & Iddewiaeth – Dysgwch am 10 Pla yr Aifft a gwnewch poster amdani

·                  *** Edrychwch ar sut mae coes broga yn gweithio. Allech chi ei ail-greu o ddeunyddiau yn y ty? Dyluniwch dyfais dy hunain sydd yn defnyddio’ch dechnoleg. 
SAESNEG=  https://www.youtube.com/watch?v=yKpJElwama8

·                  Adeiladwch dŷ i froga
CYFARWYDDIADAU SAESNEG 

·                  Gwyliwch Cynhyrchiad Theatr Fyw “The Wind in The Willows” ar https://www.willowsmusical.com/   Defnyddiwch cynifer o ansoddeiriau ag y gallech I ddisgrifio’r anifeiliaid. Trafodwch anthropomorphosis (rhoi teimladau dynol i bethau fel anifeiliaid). Pa anifail buasech chi?

·                  *** Creuwch Allwedd eich hunain am amffibiaid


No comments:

Post a Comment