Saturday, March 28, 2020

WYTHNOS 2- Tywydd


Croeso nôl! Sut aeth wythnos diwethaf? Rhowch wybod i mi yn y "sylwadau" islaw! 


Ein pwnc yr wythnos yma fydd y Tywydd. 

Unwaith eto, os hoffech chi cyfrannu at fy ngwaith, dyma fy linc KoFi. https://ko-fi.com/anwenworsfold

Dyma rhestr o weithgareddau yr wythnos yma

1. Dysgwch am y cymylau o'r llun yma (o dudalen Facebook Llen Natur)


SYNIADAU- Creuwch Allwedd
                     - Creuwch Bas Data (Database) ar J2e ar Hwb, dewiswch J2data --> Database
                     - Cadwch dyddiadur cymylau

2. Creuwch Tornado mewn Jar 

Ffynhonnell: http://onelittleproject.com/wp-content/uploads/2016/08/Tornado-in-a-Jar-Facebook.jpg 

3. Creuwch Map Tywydd --> recordiwch eich hunain yn gwneud rhagolwg tywydd

4. Saesneg - Ar y 7fed o Ebrill fydd hi'n benblwydd William Wordsworth a ysgrifennodd I Wandered Lonely As A Cloud
     
SYNIADAU- Ysgrifennwch restr o gymharebau (similies) i'w wneud a'r tywydd 
                  - Ysgrifennwch eich barddoniaeth "cwmwl" eich hunain 

5. Arbrawf! - Gwnewch eich mesurydd glaw eich hunain a nodwch faint o law sy'n cwmpo  
                      bob dydd. 
                    - Dangoswch eich canlyniadau ar ffurf graff bar

6. Poster -  Ymchwiliwch a gwnewch boster am bwysigrwydd diogelu rhag yr haul

7. Llinell Amser- Llinell amser am hanes peiriannau hedfan. Dyddiadau pwysig, ffeithiau a lluniau lle bo angen. (Tasg ar J2e Bl.4 3/4/2020)

8. Hunan-Ddysgu - Dysgwch am y Gylchred Dwr (ail PDF ar y linc

9. Llun - Gwnewch lun o enfys i roi yn eich ffenest!

10. Gwnewch enfys eich hunain a dysgwch am sut mae golau yn plygu

11. Lles - Cymerwch amser i orwedd ar y llawr (yn ddiogel) ac edrych ar y cymylau 

12. Ysgrifennwch sgript neu cartwn gan ddefnyddio'r tywydd fel eich cymeriadau. Rhaid i un allu hedfan. (Tasg ar J2e Bl.4 3/4/2020) 
Ffynhonnell: https://trolls.fandom.com/wiki/Cloud_Guy?file=Cloud_Guy_from_Trolls.png

13. Gwnewch offeryn cerddoriaeth- "Rain Maker"
       Ymchwilich - O ba wlad mae'n dod?

14. Meddylfryd Twf - Gwnewch barcud. Arbrofa gydag ychwanegu darnau neu creu siapau arbenning. Oes ffordd well o wneud barcud? Cofia defnyddio pethau wedi'u hailgylchu. 

15. Cymraeg - Darllennwch y gerdd "Cofia" gan Rhian Evans. Pa idiomau sydd ynddi? Beth ydyn nhw'n golygu? Oes mwy o ymadroddion ac idiomau i'w wneud a'r tywydd? 





No comments:

Post a Comment